Grŵp Hollbleidiol ar Faterion Pobl Fyddar
2 Hydref 2013
Yn bresennol
Ann Jones (Cadeirydd)
Donna Cushing (Ysgrifennydd Cofnodion)
Rachael Earp (Ysgrifenyddiaeth)
Cynrychiolwyr/Rhanddeiliaid
Richard Williams
Meryl Roberts
Norman Moore
Ross Evans
Nigel Williams
Nick Morris
Jim Edwards
Olivia Retter
Cerrys Hill
Jacqui Bond
Jonathan Arthur
Aelodau Cynulliad
Joyce Watson
Mike Hedges
Mark Isherwood
Cymorth Cyfathrebu
Rachel Smith (Dehonglwr)
Julie Doyle (Dehonglwr)
Grace Garnett (Gwefuslefarydd)
Hilary Maclean (Palanteipydd)
1. Croeso ac Ymddiheuriadau
Croesawodd y Cadeirydd pawb i’r cyfarfod.
Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Gill Hadfield, Kate Boddy, Paul Redfern, Debbie Thomas a Sue Williams.
Cofnodion y Cyfarfod diwethaf 22 Ebrill 2013.
Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd yn Llanelli.
Hysbysodd y Cadeirydd yr aelodau fod y cofnodion ar gael ar wefan Action On Hearing Loss.
-1-
2. Camau Gweithredu o’r cyfarfod diwethaf yng Nghaerdydd
Mae cofnodion y cyfarfodydd yn cael eu cadw ar hyn o bryd ar Wefan Action on Hearing Loss. Hysbyswyd yr aelodau na dderbyniwyd unrhyw ymateb gan y Gweinidog Addysg hyd yn hyn. At hynny, ni chafwyd unrhyw ymateb gan y Gweinidog Iechyd hyd yn hyn ychwaith ynglŷn ag Iechyd Meddwl â cholli clyw. Mae angen mynd ar drywydd y ddau fater hyn.
Ymhellach, mewn perthynas â chyfarfod cyhoeddus mis Ebrill – roedd Jim Edwards wedi gwneud gwaith ychwanegol mewn perthynas ag addysg yn y gweithle. Gellid trafod y mater hwn yn y cyfarfod nesaf fel eitem sylweddol.
3. Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)
Mae’r adroddiad ar yr uchod eisoes wedi’i ddosbarthu i’r cynrychiolwyr. Roedd Nick Morris am dynnu sylw at 3 mater yn yr adroddiad a oedd yn berthnasol i bobl fyddar a thrwm eu clyw:-
· Asesiadau – Sut i sicrhau bod y pwynt mynediad sengl yn hygyrch a bod gan staff y lefel gywir o wybodaeth ac ymwybyddiaeth o bobl fyddar, trwm eu clyw a phobl fyddar a dall. Cymhwysedd – Sut i sicrhau bod y meini prawf cymhwysedd yn cydnabod anghenion gofal a chymorth pobl fyddar, pobl trwm eu clyw a phobl fyddar a dall.
·
Integreiddio a chydweithredu – rhwng gwasanaethau
cymdeithasol a byrddau iechyd. Yn benodol, materion byddardod a
cholli clyw sydd ag elfen feddygol iddynt ond sydd ag elfen o ofal
a chymorth cymdeithasol amlwg iawn hefyd. Hwyrach y bydd rhai pobl
eisiau neu angen gwasanaethau er mwyn cael y canlyniadau y dymunant
yn eu bywydau a’r cymorth sydd arnynt eu hangen er mwyn
sicrhau’r canlyniadau.
· Gallu - Wrth asesu unigolyn mae’n rhaid i’r awdurdod lleol ystyried nid yn unig anghenion yr unigolyn a’r canlyniad y mae’r unigolyn am ei gael ond cryfderau a gallu’r unigolyn, y teulu ac eraill sydd a allai eu cynorthwyo hefyd.
Trafododd y rhai a oedd yn bresennol y mater yn helaeth gan dynnu sylw at y meysydd yr oeddent am i’r Bil eu cwmpasu. Hysbysodd Nick Morris y cynrychiolwyr bod yr Asiantaeth Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol yn cynghori ar gynnwys a chynhwysiant y Bil ac roedd am iddo fod mor gynhwysfawr â phosibl. Nododd Nick Morris nad ydynt am i’r Bil gael ei gymeradwyo ac yna sylweddoli yn ddiweddarach bod angen ychwanegu ato.
Nododd y Cadeirydd os oedd yr aelodau am roi sylwadau ar yr adroddiad tybed a fyddai modd iddynt wneud hynny cyn gynted ag yr oedd modd.
4. Rhaglen Mynediad i Waith
Cyflwynodd Richard Williams Cerrys Hill o’r Adran Gwaith a Phensiynau a oedd wedi cael ei gwahodd i’r cyfarfod, ar gais y pwyllgor, i drafod pryderon yr aelodau ynglŷn â’r Rhaglen Mynediad i Waith.
-2-
Nododd Cerrys Hill efallai bod camddealltwriaeth wedi bod ynglŷn â’i rôl. Nododd nad oedd a wnelo hi ddim byd â’r Rhaglen Mynediad i Waith ac mai llysgennad ydyw sy’n gweithio gyda sefydliadau a arweinir gan ddefnyddwyr ar gyfer pobl anabl er mwyn eu helpu i ddatblygu cysylltiadau a rhannu arferion da. Nododd Cerrys ei bod, fodd bynnag, yn cydweithio’n agos ag Esta McVeigh, ac y bydd yn sicr o dynnu ei sylw at bryderon y grŵp mewn perthynas â’r Rhaglen Mynediad i Waith. Nododd ymhellach ei bod yn cytuno y gallai pobl â nam ar eu clyw fod yn colli allan ar gyfleoedd o ganlyniad i’r ffaith bod diffyg ymwybyddiaeth o’r Rhaglen Mynediad i Waith.
Hysbysodd Cerrys y grŵp o’r cyllid a oedd ar gael o’r Swyddfa dros Faterion Pobl Anabl a bod y broses ymgeisio yn ddigon syml ac y byddai’n annog sefydliadau i ymgeisio gan yr ymdrinnir â cheisiadau yn eithaf cyflym. Nododd ymhellach beth oedd ei rôl fel Llysgennad ac mai am 22 awr y mis yn unig yr oedd yn cael ei chyflogi.
Trafododd aelodau’r grŵp faterion yn ymwneud â’r Rhaglen Mynediad i Waith a rôl Cerrys Hill fel llysgennad a phenderfynwyd cysylltu â’r Adran Gwaith a Phensiynau ynglŷn â’r Sioe Deithiol ar Anabledd er mwyn cadarnhau’r sefyllfa o ran ei hatgyfodi. Penderfynwyd cysylltu â Chanolfan Byd Gwaith hefyd a’u gwahodd i un o gyfarfodydd y pwyllgor er mwyn trafod rôl Cynghorwyr Cyflogaeth Anabledd, gan ofyn i unigolyn ddod i siarad yn fanwl am y Rhaglen Mynediad i Waith, beth sy’n cael ei ariannu gan y cynllun a sut maen nhw’n gwneud y cyhoedd a chyflogwyr yn ymwybodol o’r ffaith ei fod ar gael.
5. Y wybodaeth ddiweddaraf am Aelodau Cynulliad
Is-deitlo darllediadau teledu’r Cynulliad - Hysbyswyd y grŵp bod S4C wedi dechrau darlledu’r Cwestiynau i’r Prif Weinidog gydag iaith arwyddion. Caiff ei ddarlledu ar nos Fawrth.
6. Unrhyw Fater Arall
Rheolau Newydd y Grŵp Trawsbleidiol - hysbyswyd y rhai a oedd yn bresennol o’r rheolau newydd y mae’n rhaid i’r Grŵp gydymffurfio â nhw. Bydd Cofnodion yn cael eu cyhoeddi ar Wefan y Cynulliad, mae’n rhaid cynnal Cyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol ac mae’n rhaid paratoi Cyfrifon Blynyddol.
Y wybodaeth ddiweddaraf am Wasanaethau Mynediad i Iechyd Meddwl - Hysbysodd Richard Williams yr aelodau o rwydwaith arbenigol y gwasanaeth iechyd yn y Gogledd sydd wedi bod ar gael ers blwyddyn. Yn ystod y cyfnod hwnnw, cafwyd 19 o atgyfeiriadau gyda’r rhan fwyaf ohonynt o’r sector gwirfoddol ac ymddengys bod problem o ran derbyn atgyfeiriadau gan feddygon teulu ac o ofal sylfaenol. Fodd bynnag, mae’r gwasanaeth yn gwneud gwaith gwerthfawr ac wedi llwyddo i leihau’r oedi ar gyfer defnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain.
Y wybodaeth
ddiweddaraf am Ofal Iechyd Hygyrch - nododd Richard Williams i
bwysau gael ei roi ar Fyrddau Iechyd rai blynyddoedd yn ôl i
wneud
-3-
gwasanaethau'n hygyrch i bobl â nam ar eu clyw. Lluniwyd y Safonau Gwybodaeth Hygyrch ar gyfer y gwasanaethau iechyd yng Nghymru a gofynnwyd i’r byrddau iechyd eu rhoi ar waith erbyn yr Hydref. Pan fydd y Safonau wedi’u lansio a phan fyddant ar waith, yna gall aelodau’r cyhoedd herio gwasanaethau gwael.
Roedd Jayne Dulson wedi gofyn i Richard Williams wneud cais am y wybodaeth ddiweddaraf am y Cynllun “Cau’r Bwlch Cyflog”. Hysbysodd y Cadeirydd y grŵp bod hyn wedi’i wneud.
7. Y cyfarfod yn dod i ben a phennu dyddiad ar gyfer y cyfarfod nesaf
Cynhelir
cyfarfod nesaf y Grŵp Hollbleidiol ar Faterion Pobl
Fyddar
yng Nghaerdydd
yn ystod trydedd wythnos mis
Tachwedd.